Dyn yn euog o gynllwynio i drosglwyddo arfau
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchydd o Libya wedi cyfaddef iddo gymryd rhan mewn cynllun gwerth £18.6m i drosglwyddo arfau i'r wlad honno.
Roedd Abdurraouf Eshati, oedd gyda chyfeiriad yn Wrecsam, i fod i fynd o flaen ei well yn llys yr Old Bailey yn Llundain ond fe newidiodd ei ble.
Cyfaddefodd Eshati, sydd yn 29 oed, i gasglu gwybodaeth ar gyfer dibenion terfysgol ar neu o gwmpas 1 Rhagfyr 2014.
Roedd y cyhuddiad yn ymwneud a dwy ddogfen electroneg mewn cysylltiad â phrynnu arfau a hurio awyren gargo.
Clywodd y llys fod y dogfennau yn tanlinellu cynllun i anfon cyflenwad anferth o arfau i Libya drwy gyswllt yn yr Eidal, er mwyn cefnogi achos pobl y Zintan yn nwyrain y wlad.
Cafodd ei ddal yn ceisio cyrraedd Ffrainc mewn lori gyda 19 o bobl eraill ym mhorthladd Dover ar 30 Tachwedd y llynedd.
Daeth yr heddlu o hyd i neges ar ei ffôn symudol gan werthwr arfau am werthiant arfau i Tobruk yn Libya, a thaliad am awyren gargo am £163,000 er mwyn ei defnyddio yn y wlad honno.
Aeth yr heddlu i archwilio cyfeiriad Eshati yn Wrecsam fel rhan o'u hymchwiliad.
Fe gyfaddefodd i wneud cais i aros ym Mhrydain drwy dwyll ym mis Rhagfyr 2012 gan honi'n anghywir y byddai ei fywyd mewn perygl petai'n dychwelyd i Libya.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ddydd Mawrth.