Atal y sgarmes i osgoi anafiadau plant?
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o undebau'n awgrymu y dylai plant chwarae rygbi tag yn gyntaf
Mae academydd Cymraeg, fu'n gweithio gydag Undeb Rygbi Lloegr, wedi awgrymu mai un ffordd bosib o osgoi anafiadau rygbi i blant yw eu hatal rhag cymryd rhan yn y sgarmes hyd nes eu bod yn 13 oed.
Dywedodd Dr Gethin Jones, sy'n ddarlithydd gwyddoniaeth hyfforddi ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y dylid gwahanu plant yn ôl eu gallu mor ifanc â phosib fel bod modd cwtogi niferoedd yr anafiadau a gwella sgiliau chwarae plant.
Roedd yn siarad ar raglen Newyddion 9 BBC Cymru nos Iau.
Ar hyn o bryd mae undebau rygbi Cymru ag Iwerddon yn awgrymu y gall plant gymryd rhan yn y sgarmes o dan naw oed.
Mae plant yn dechrau o dan 10 oed yn Lloegr a 11 oed yn yr Alban.

Taclo
Ond mae nifer o undebau'n cytuno ar ganllawiau taclo ac yn awgrymu y dylai plant chwarae rygbi tag yn gyntaf, gan ddod â thaclo i'r gêm pan mae plant o dan naw oed.
Yn Iwerddon maen nhw'n dechrau taclo flwyddyn yn gynt na hyn.
Dywedodd Dr Jones: "Fydden ni ddim yn cyflwyno sgrymio tan 13 neu 14 oed, a pan 'nes i siarad gyda nifer o hyfforddwyr elite roedden nhw'n cytuno ... ac mae'r un peth yn wir am leiniau - does dim rheswm i ddechrau taflu i'r lein os nad ydych yn gallu codi, ac nid yw unigolion yn ddigon cryf i godi.
"Ac rwy'n credu y gallai pethau fel hyn leihau anafiadau," meddai.

Y nod yn y pen draw yw lleihau anafiadau