Dur: Dwsinau o swyddi'n diflannu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Ffatri Caparo yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr
Mae cwmni dur wedi dweud bod cannoedd o swyddi'n diflannu, gan gynnwys dwsinau yng Nghymru.
Aeth Caparo Industries i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Medi.
Awgrymodd undebau taw mewnforion rhad oedd y rheswm am drafferthion ariannol y cwmni.
Bydd 12 o swyddi'n diflannu yn Wrecsam ac 17 yn Nhredegar.