Tân marwol: Carcharu menyw
- Cyhoeddwyd

Roedd y tân ym Mai 2014
Mae menyw wedi ei charcharu wedi i ddyn farw ar ôl tân mewn fflat yn y Cymoedd.
Yn Llys y Goron Caerdydd plediodd Rebecca Jenkins, 29 oed o Ynysybwl, Rhondda Cynon Taf, yn euog i ddynladdiad Mark Carpenter, 46 oed.
Bu farw Mr Carpenter yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, ar ôl y tân ym Mai 2014.
Cafodd ddedfryd amhenodol er amddiffyniad y cyhoedd, o leia bedair blynedd ond bydd y ddedfryd 324 o ddiwrnodau'n llai oherwydd ei chyfnod yn y ddalfa.