Facebook yn y carchar: Cosb bellach
- Cyhoeddwyd

Gall dyn gafodd ei garcharu am wyth mlynedd am ladd dyn wynebu "cosb bellach" ar ôl defnyddio Facebook tra ei fod dan glo.
Cafodd Dean Doggett, 26 o Donypandy, ei garcharu am ddynladdiad Wayne Letherby, 42 a hefyd o Donypandy.
Dywedodd llefarydd bod y Gwasanaeth Carchardai wedi gweithredu "ar unwaith" a chau ei gyfrif ar y wefan.
"Mae carcharorion wedi eu gwahardd rhag defnyddio ffonau symudol a chyfryngau cymdeithasol," ychwanegodd y llefarydd.
Mae'r carchar yn ymchwilio ymhellach i'r digwyddiad.
Cafodd Jamie Leyshon, 26, ei ddedfrydu i wyth mlynedd dan glo am yr ymosodiad, ac fe gafodd Kylie Thomas, 25, ei charcharu am flwyddyn.