Cadwaladers: Cau siopau i achub cwmni
- Cyhoeddwyd

Bydd pump o siopau cwmni Cadwaladers - cyfres o siopau coffi a hufen iâ - yn cau, yn rhan o fargen i achub y cwmni.
Yn ôl datganiad nos Fawrth, bydd naw siop yn parhau i fod ar agor, ac mae 92 o swyddi wedi eu gwarchod, wrth i'r cwmni gael ei brynu o ddwylo gweinyddwyr.
Fe gafodd y cwmni ei sefydlu gan y teulu Cadwalader yng Nghricieth yn 1927, ac mae ei hufen iâ blas fanila yn enwog hyd heddiw.
Erbyn hyn mae 'na siopau ledled Cymru.
Fe ddywedodd Diane Brierley o Cadwaladers: "Mae gwarchod dyfodol y busnes yn bwysig iawn, ac mae'r fargen yn ein rhoi ni mewn safle cryf wrth i ni symud ymlaen.
"Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd, ond 'dy ni'n credu fod gan Cadwaladers y potensial i ddod yn ôl yn gryfach gan gynnig rhywbeth gwahanol i'r arfer i gwsmeriaid y stryd fawr."