Pedwar yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ger Corwen
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ger Corwen nos Fawrth.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar yr A5014 am tua 21:40 ac fe gafodd pedwar o bobl eu cludo i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae un llanc 17 oed bellach wedi ei gludo i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.
Dylai unrhyw un welodd y digwyddiad, oedd yn ymwneud a char Renault Clio, gysylltu gyda'r heddlu ar 101, gan roi'r rhif S169085.