Pedwar yn euog o gynllwyn heroin gwerth £5m
- Cyhoeddwyd

Llys y Goron Caerdydd
Mae pedwar dyn wedi eu cael yn euog o gynllwynio i gyflenwi heroin gwerth dros £5m - un o'r symiau mwyaf o heroin i gael ei ddarganfod yng Nghymru erioed.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y dynion yn gyfrifol am "swm enfawr" o'r cyffur.
Daeth yr heddlu o hyd i dros 40 cilogram o heroin yn dilyn ymgyrch rhwng 2013 a 2014.
Roedd Shazia Ahmad a Wasim Ali o Gasnewydd a Zawed Malik o ardal Manceinion yn euog ddydd Mercher o gynllwynio i gyflenwi heroin.
Yn ddieuog
Mae Umar Arif o Gaerdydd hefyd wedi'i gael yn euog o'r un drosedd.
Cafwyd Khalid Yassen o Gaerdydd yn ddi-euog ac fe fethodd y rheithgor â dod i benderfyniad yn achos Umar Butt o Gaerdydd.
Daeth yr heddlu o hyd i 37 cilogram o heroin mewn system sain a bag mewn car ar draffordd yr M5.
Daethpwyd o hyd i dri chilogram arall mewn tacsi yng Nghasnewydd.