Pump yn cael eu carcharu am gynllwyn cyflenwi cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Fatos Hasa (chwith) ,wedyn gyda'r cloc Dardan Merdhoqi, Lorenc Hasa, Naldi Metaj, Sharif Omar
Yn Llys y Goron Caerdydd cafodd pump o ddynion eu carcharu am gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis gwerth £1 miliwn yn y de.
Cafodd arweinydd y grŵp, Fatos Hasa, 31 oed, o Gaerdydd a rheolwr bar Lab22 yn y ddinas, ei garcharu am wyth mlynedd.
Mae'r heddlu wedi llwyddo i gipio £147,000 o gyfrif banc Hasa ac maen nhw'n parhau i geisio cael gafael ar asedau aelodau eraill y giang.
Y lleill i gael eu carcharu oedd
• Lorenc Hasa, 29, o Gaerdydd, pum mlynedd a hanner - cynllwynio i gyflenwi cocên
• Naldi Metaj, 23, dim cyfeiriad parhaol, pum mlynedd a hanner - cynllwynio i gyflenwi cocên
• Sharif Omar, 34, o Gaerdydd, tair blynedd a thri mis - cynllwynio i gyflenwi cocên
• Dardan Merdhoqi, 24, o Gasnewydd wyth mis a hanner am gynllwynio i gyflenwi canabis