Nigel Owens yn dyfarnu gêm leol
Wythnos ar ôl rownd derfynol Cwpan Rygbi'r Byd, fe gafodd Nigel Owens groeso cynnes ddydd Sadwrn wrth ddyfarnu ei gêm gyntaf ers y ffeinal fawr yn Twickenham.
Tre-gŵyr oedd yn herio Crymych, ac er nad oedd y gynulleidfa mor fawr â'r un ddydd Sadwrn diwethaf, roedd 'na record newydd i glwb rygbi Tre-gŵyr gyda'r nifer mwyaf erioed o gefnogwyr yn dod i wylio gêm yno.
Mari Grug fu'n mwynhau'r chwarae ar ran Newyddion 9.