Dim gwasanaethau oherwydd streic Trenau Arriva Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae holl wasanaethau Trenau Arriva Cymru dydd Iau a dydd Gwener wedi eu canslo , wrth i undebau fynd ar streic 48 awr.
Mae aelodau undeb gweithwyr trafnidiaeth yr RMT, a'r undeb gyrrwyr trenau, Aslef, yn gweithredu wedi i drafodaethau am delerau gwaith fethu arwain at gytundeb.
Fe gyhuddodd swyddogion yr RMT y cwmni o wrthod ystyried cynnig cyflog ac amodau gwaith teg er i'r undeb gytuno i ohirio streic er mwyn parhau i drafod.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr RMT, Mick Cash nad oes gan yr undeb ddewis ond bwrw 'mlaen â'r streic.
"Mae ein haelodau sy'n gweithio i Drenau Arriva Cymru'n ddig oherwydd methiant y cwmni i wella amodau gwaith a diogelwch, ac i leihau blinder gwaith.
"Does dim dewis gennym ni ond gweithredu a gyrru neges i ddweud nad yw'r undeb yn barod i adael i staff Trenau Arriva Cymru gael eu trin mewn ffordd mor ddirmygus."
Ychwanegodd fod yr undeb "yn parhau i fod ar gael i gynnal trafodaethau ystyrlon".
Mae'r cwmni'n dweud fod eu cynnig diweddaraf yn cynnwys cynnig i godi cyflog ar raddfa well na chwyddiant, a thoriad yn uchafswm oriau gweithio'r gyrwyr.
Dywedodd Gareth Thomas ar ran Trenau Arriva Cymru: "Yn amlwg, rydyn ni'n siomedig nad yw undeb y gyrwyr wedi derbyn ein cynnig ffafriol, ac eu bod wedi dewis streicio er fod trafodaethau'n parhau."