Hofrennydd: 'Cynnig gwasanaeth 24 awr'

  • Cyhoeddwyd
Hofrennydd Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Hofrennydd Dyfed Powys

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys wedi bod yn amlinellu cytundeb newydd sy'n addo gwasanaeth hofrennydd 24 awr ar gyfer canolbarth a gorllewin Cymru.

Dywed Christopher Salmon y bydd y cytundeb newydd gyda Gwasanaeth Awyr Prydeinig yr Heddlu (NAPAS) yn dod i rym y flwyddyn nesa'.

Ond mae'r cytundeb eisoes wedi ei feirniadu gan wleidyddion lleol, sy'n dweud na fydd y gwasanaeth wedi ei leoli yn yr ardal, gan ddefnyddio maes awyr Penbre ger Llanelli.

Dywedodd Plaid Cymru eu bod yn "siomedig" y byddai'r llu yn colli eu hofrennydd.

O dan y drefn newydd, bydd hofrenyddion o Sain Tathan, Penarlâg neu safleoedd yn Lloegr nawr yn gyfrifol am roi gwasanaeth i ardal Heddlu Dyfed Powys.

Christopher Salmon
Disgrifiad o’r llun,

Christopher Salmon

'Dim dewis'

Ddydd Mercher dywedodd Mr Salmon wrth raglen Good Morning Wales ar BBC Radio Wales nad oedd dewis gan y llu o ran ymuno yng nghynllun NAPAS.

"Doedd dim dewis o ran ymuno, roedd yn rhaid gwneud, beth rwyf i wedi bod yn ceisio ei sicrhau yw'r cytundeb gorau posib i Ddyfed Powys.

"Bydd y gwasanaeth newydd ar gael 24 awr y dydd a hynny o'u gymharu â 12 awr ar hyn o bryd.

"Rwyf hefyd wedi sicrhau fod y safle ym Mhenbre yn parhau ar agor, a byddwn yn arbed tua £275,000 y flwyddyn.

"Dyw hyn ddim yn berffaith ond hwn oedd y cytundeb gorau ar gyfer Dyfed Powys a hynny ar ôl trafodaethau maith."

'Cadw yn y tywyllwch'

Yn gynharach yn yr wythnos, pan ddaeth i'r amlwg fod Mr Salmon ar fin gwneud cyhoeddiad am ddyfodol y gwasanaeth, roedd yna feirniadaeth ar lawr y Senedd ym Mae Caerdydd.

Dywedodd Simon Thomas, AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ei fod yn teimlo bod gwleidyddion lleol a Llywodraeth Cymru wedi eu "cadw yn y tywyllwch", ac roedd yn feirniadol o Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys,

Mae'r AC wedi bod yn ymgyrchu i gadw'r gwasanaeth presennol ym Mhenbre.

Yn wreiddiol, roedd ACau, ASau a chynghorwyr lleol wedi eu gwahodd i gyfarfod ddydd Gwener er mwyn cwrdd â'r Prif Gwnstabl Simon Price a chynrychiolwyr NAPAS i drafod yr hofrennydd.

Ond cafodd y cyfarfod ei ganslo ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod Mr Salmon am wneud cyhoeddiad ei hun ddydd Mercher.

'Diffyg parch'

Dywedodd Mr Thomas wrth y Senedd y byddai "trethdalwyr lleol" ar eu colled oherwydd y penderfyniad.

"Rwyf yn deall y bydd NPAS yn berchen ar yr hofrennydd fydd yn cael ei drosglwyddo o Ddyfed Powys, hofrennydd y talwyd amdano gan drethdalwyr Dyfed Powys.

"Mae hynny yn mynd â budd o Gymru a'i wario yn rhywle arall."

Wrth ymateb yn y Senedd, dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Cymru, fod Mr Salmon wedi dangos "diffyg parch i Aelodau Cynulliad a Llywodraeth Cymru" ac y byddai'n codi'r mater gyda Leighton Andrews, Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Straeon perthnasol