Pryder am ddyfodol swyddi Cyllid a Thollau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae yna bryderon am ddyfodol cannoedd o swyddi mewn swyddfeydd trethi yng Nghymru.
Mae disgwyl i adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydu hysbysu staff yng Nghaerdydd, Abertawe, Wrecsam a Phorthmadog o'r manylion ddydd Iau.
Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Rhun ap Iorwerth wedi galw am eglurhad brys, wedi dyfalu y gallai gwasanaethau gael eu canoli yng Nghaerdydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydu:
"Yfory (dydd Iau) byddwn yn hysbysu'n staff o'n cyfeiriad yn y dyfodol."
"Rydym wedi ei gwneud hi'n glir ers peth amser y bydd hyn yn arwain at lai o swyddfeydd, ond y bydd y swyddfeydd yn fwy ac yn fwy modern, er mwyn ein galluogi ni i ddarparu gwell gwasanaethau i'n cwsmeriaid ac ennill mwy o gyllid treth o wasanaethau cyhoeddus."
"Mae'r newidiadau hyn yn rhan o raglen foderneiddio ddechreuodd sawl blwyddyn yn ôl a fydd yn digwydd dros y ddegawd nesaf. "

Mae yna ddyfalu y gallai gwasanaethau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gael eu canoli yng Nghaerdydd