Plant Mewn Angen: £1.6m wedi'i godi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd dros £1.6m ei godi yng Nghymru ar gyfer apel Plant Mewn Angen eleni.
Mae'r ffigwr £300,000 yn uwch na chyfanswm y llynedd, a daw yn dilyn ymgyrchoedd codi arian ledled y wlad.
Fe gafodd £1,665,582 ei godi yng Nghymru, a bydd yr holl arian yn cael ei roi i elusennau plant.
Fe wnaeth y ffigwr yma gyfrannu at gyfanswm o £37,100,687 ar draws y DU.