Cwpan Her Ewrop: Calvisano 9-50 Gleision
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y Gleision ddechrau eu hymgyrch yng Nghwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth pwynt bonws dros Calvisano yng ngogledd yr Eidal brynhawn Sadwrn.
Fe wnaeth y mewnwr Lloyd Williams ddathlu ei 100fed ymddangosiad i'r rhanbarth trwy sgorio'r cais agoriadol.
Tom James oedd yr ail i groesi wrth i'r Gleision fynd i'r egwyl ar y blaen o 6-15.
Daeth pump o saith cais yr ymwelwyr yn yr ail hanner wrth i Calvisano flino.
Fe wnaeth seren y gêm Ellis Jenkins, Dan Fish, Blaine Scully, Gavin Evans a chais gosb ychwanegu at y sgôr wedi'r egwyl.
Ciciodd Rhys Patchell 11 pwynt wrth i Jarrod Evans drosi ddwywaith, gyda Filippo Buscema yn cicio holl bwyntiau'r tîm cartref.