Gwrthdrawiad Ferrari: Dyn ag anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483, ffordd osgoi Wrecsam
Mae dyn wedi'i gymryd i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl i gar Ferrari fod mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 i gyfeiriad y de ger cyffordd yr Orsedd am tua 10:45 fore Sadwrn.
Bu rhaid i'r gwasanaeth tân dorri'r to oddi ar y car, ac fe gafodd y dyn ei gymryd i Ysbyty Maelor yn y dref.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod anafiadau'r dyn yn rhai difrifol, ond ei fod mewn cyflwr sefydlog.