Adfer cyflenwad trydan wedi gwyntoedd cryfion
- Cyhoeddwyd

Mae cyflenwad trydan oddeutu 300 o gartrefi yng Nghymru wedi ei adfer, wedi trafferthion oherwydd gwyntoedd cryfion dros y penwythnos.
Fe ddywedodd Scottish Power fod gwasanaeth i rai cartrefi yng ngogledd Cymru wedi ei effeithio.
Yn ogystal, roedd 259 o gwsmeriaid Western Power heb drydan yn ardal Pontyberem yn Sir Gâr.
Fe gafodd y cyflenwad ei adfer nos Sul.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod "peirianwyr wedi gweithio'n galed mewn amodau gwael i geisio adfer y cyflenwad cyn gynted â phosibl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2015
