Ymchwiliad wedi'i lansio i achos tân mewn ysgol
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad wedi'i lansio yn dilyn tân mewn ysgol gynradd yng Nghwmbrân yn gynnar ar Ddydd Calan.
Bu 10 o griwiau tân yn brwydro trwy'r nos i atal y fflamau rhag symud i brif adeilad Ysgol Coed Efa.
Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad am 02:27.
Fe wnaeth hi gymryd tair awr i ddod a'r fflamau dan reolaeth ac roedd 55 o ddiffoddwyr ar y safle pan oedd y tân ar ei waethaf.
Bydd y gwasanaeth tân yn cydweithio gyda Heddlu Gwent i ddarganfod achos y digwyddiad.

Dywedodd Gill Ellis, prif athrawes yr ysgol: "Mae hyn yn gwbl drychinebus i'r ysgol a'r holl ddisgyblion.
"Mae'r tân wedi dinistrio'r adeilad y babanod a'r feithrinfa ond bydd yr holl ysgol ar gau ddydd Llun a dydd Mawrth.
"Bydd gwaith yn cael ei wneud i ddiogelu'r safle a dychwelyd pŵer dros y dyddiau nesaf cyn i ni gyfarfod fore Llun i ystyried pa mor gynnar y gallwn ni ailagor yr ysgol yn ddiogel a gostwng yr amhariad ar addysg y disgyblion."
Mae tua 460 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol gymunedol.