Pryder am y cynnydd yng nghost angladdau ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae 'na bryder bod y cynnydd mawr yng nghost angladdau ym Mhowys yn mynd i fod yn ormod i lawer o deuluoedd.
Mae pris claddu gannoedd o bunnoedd yn ddrytach eleni nag yr oedd y llynedd wrth i Gyngor Powys geisio adfer y costau o gynnal eu mynwentydd.
Mae 19 mynwent yn y sir, ac mae'r cyngor yn dweud bod y gwaith o ofalu amdanyn nhw'n "ddrud iawn".
I geisio adfer y costau rheiny, mae'r cyngor yn dweud nad oes dewis ganddyn nhw ond adolygu'r ffioedd sydd yn gysylltiedig â chynnal angladd.

Y llynedd roedd torri bedd sengl ym Mhowys yn costio £376. Ers 1 Ionawr, mae wedi cynyddu i £621.
Mae prynu plot â'r hawl unigryw i gladdu ynddo wedi codi o £434 i £716, cynnydd o bron i £300.
Doedd dim cost ychwanegol am gladdu ar ddydd Sadwrn, ond nawr, mae'n rhaid talu £400 yn fwy.

Mae Geraint Peate yn trefnu llawer o angladdau ym Mhowys o swyddfa'i gwmni yn y Trallwng. Mae e'n credu y bydd cynyddu'r prisiau yn "rhoi straen mawr" ar rai teuluoedd.
"Bob blwyddyn, de ni'n cael llythyr tua cychwyn Rhagfyr, yn codi ryw 10 - 15%, ond pan es i edrych i mewn iddo, roedd o i fyny 60%.
"Rhan fwya, mae pobl yn paratoi ac yn safio pres at y diwrnod hwnnw, ond i'r rhai sydd ddim wedi paratoi, dwi ddim yn gwybod beth maen nhw'n mynd i'w wneud."
"Mae'n mynd i wneud pethau'n fwy anodd i ni ymgymerwyr. Ond y peth mwya dwi'n poeni am ydy, wyddoch chi, bydd rhaid rhoi mwy o bwysau ar y teulu i wneud yn siwr bod yna bres yna i dalu amdano."
'Dim dewis arall'
Mae Cyngor Powys yn dweud fod y penderfyniad wedi bod yn anodd, ac yn un o lawer y mae'n rhaid iddyn nhw wneud.
Mae'r awdurdod yn ceisio gwneud arbedion o £27m dros dair blynedd, a chlywodd y cyngor cyn y Nadolig y byddai'n wynebu'r toriad cyllideb mwyaf o'r holl siroedd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cyngor yn wynebu pwysau ariannol difrifol, meddai'r cynghorydd John Powell, sy'n gyfrifol am fynwentydd ar gabinet Powys.
Nid penderfyniad hawdd yw codi ffioedd meddai, ond oherwydd y pwysau ariannol, does dim dewis arall.