Abertawe wedi penodi Francesco Guidolin
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe wedi cadarnhau y bydd cyn-reolwr clwb Udinese, Francesco Guidolin yn brif hyfforddwr newydd.
Fe fydd yr Eidalwr yn gweithio ochr yn ochr â'r rheolwr presennol, Alan Curtis, tan ddiwedd y tymor.
Mae Guidolin, 60 oed, wedi rheoli nifer o glybiau yn yr Eidal yn y gorffennol, gan gynnwys Palermo a Parma, yn ogystal â Monaco yn Ffrainc.
Yn ogystal â sicrhau dyrchafiad gyda thri chlwb gwahanol yn yr Eidal - Parma, Palermo a Vicenza - fe arweiniodd Guidolin glwb Udinese at eu safle uchaf erioed yn Serie A (3ydd) gan sicrhau lle yng Nghynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf erioed yn ei gyfnod yna.
Bydd yn cyrraedd Stadiwm Liberty brynhawn Llun cyn gwylio'r gêm rhwng Abertawe a Watford yn yr Uwchgynghrair am 20:00.
Fe ddywed y clwb mai Guidolin, yn hytrach na Curtis, fydd â'r gair olaf ar ddewis y tîm.
Fe gafodd y cyn-reolwr, Gary Monk, ei ddiswyddo ar 9 Rhagfyr.
Mae'r Elyrch yn y 18fed safle yn Uwch Gynghrair Lloegr ar hyn o bryd.