Irfon Williams: Canser wedi dychwelyd
- Cyhoeddwyd

Bydd Irfon Williams, yr ymgyrchydd canser o Fangor a sylfaenydd ymgyrch 'Hawl i Fyw', yn cael llawdriniaeth yn Lerpwl ddydd Mawrth wedi i'w ganser ddychwelyd.
Ar ôl cyhoeddi ddydd Llun fod y canser yn ôl yn yr iau, dywedodd y byddai'n cael triniaeth i dynnu'r tiwmorau yn Lerpwl.
Cafodd y tad i bump ddiagnosis gwreiddiol o ganser y coluddyn ym mis Ionawr 2014, ac fe gafodd driniaeth yn ysbytai Glan Clwyd ag Ysbyty Gwynedd i ddechrau.
Yn ystod y cyfnod yma, arweiniodd ymgyrch gyhoeddus i gael yr hawl i dderbyn y cyffur Cetuximab, gan nad oedd y cyffur ar gael i gleifion yng Nghymru ar y pryd.
Bu'n rhaid iddo symud ei driniaeth i Loegr er mwyn cael y cyffur, ac fe fu'r driniaeth yn ddigon llwyddiannus i leihau'r tiwmorau gan olygu iddo allu derbyn llawdriniaeth i'w tynnu nhw ym Medi 2015.
Erbyn mis Rhagfyr y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai Cetuximab ar gael i gleifion yng Nghymru o hyn allan, ac yn ystod yr un mis, fe glywodd Mr Williams y newyddion ei fod yn glir o ganser.
Ond mewn neges ar wefan Facebook ddydd Llun, cyhoeddodd fod y canser wedi dychwelyd, gan ysgrifennu:
"Yn anffodus cefais newyddion wythnos diwethaf fod y canser wedi dod yn ôl i'r iau....ond....mae yna blan, yn ôl i Lerpwl i dynnu fo allan eto fory, mi fedrai guro hwn eto x".
Penderfynodd sefydlu elusen Tîm Irfon i godi arian ar gyfer cefnogi cleifion canser yn y gogledd tra roedd yn derbyn triniaeth - er mwyn ariannu triniaethau amgen, cefnogaeth iechyd meddwl i gleifion a'u teuluoedd, wigs ac ati.
Lansiodd yr ymgyrch yn Eisteddfod yr Urdd Y Bala ym Mai 2014, gan wisgo gwahanol wigs bob dydd i dynnu sylw at yr ymgyrch.
Y nod yn wreiddiol oedd codi £20,000, ond mae'r ymgyrch wedi cyrraedd dros £115,000 erbyn hyn, gyda channoedd o bobl wedi gwneud pob mathau o bethau i godi arian.