UKIP: Beth fydd ffawd y blaid yn yr etholiad?
- Cyhoeddwyd

Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig y BBC sydd yn darogan beth fydd ffawd y pleidiau gwleidyddol yn etholiad y Cynulliad gan ddechrau gydag UKIP.
Byddin y bobol neu'r fyddin borffor - pa bynnag un sydd orau ganddynt mae trŵps UKIP yn hoff o'r gymhariaeth filwrol yna.
Ond rhaid cyfaddef, ar adegau, mae'r blaid yng Nghymru yn debycach i blatŵn Captain Mainwaring na'r SAS - yn garfan o ddynion canol oed ac oedrannus sy'n treulio mwy o'u hamser yn cwympo mas â'i gilydd nag yn wynebu'r gelyn.
Ond dyma beth ryfedd i chi - dyw hi ddim yn ymddangos bod yr holl rwgnach, yr ymddiswyddiadau a'r ymgecru yn gwneud rhyw lawer o wahaniaeth yng ngolwg y cyhoedd.
Oherwydd hynny mae'n ymddangos bod plaid heb nemor ddim cynrychiolaeth yn ein siambrau cyngor a fawr ddim trefn ar lawr gwlad ar fin ennill talp o seddi yn y Cynulliad.
Does dim rhyfedd felly bod ambell i Gorporal Jones yn y pleidiau eraill yn dechrau panicio!

Nathan Gill yw arweinydd UKIP yng Nghymru
Yn wir oherwydd system gyfrannol y Cynulliad fe fyddai'n dipyn o ryfeddod pe na bai UKIP yn ennill o leiaf llond dwrn o seddi ym mis Mai.
Serch hynny mae 'na gwestiynau i'w hateb.
Yn bennaf a fydd cefnogwyr y blaid yn troi mas i bleidleisio mewn etholiad penodol Cymreig?
Does neb yn gwybod mewn gwirionedd ond mewn ymdrech i'w denu mae'r blaid wedi ceisio llunio ambell i bolisi gafaelgar - megis ail-sefydlu ysgolion gramadeg.
A fydd hynny'n ddigon? Wel pwy a ŵyr, ond gydag Ewrop a ffoaduriaid yn dominyddu'r newyddion efallai y bydd yr UKIPwyr yn cymryd mantais o gyfle i gicio'r tresi ac y bydd gan y platŵn porffor gartref tipyn mwy crand na neuadd eglwys ar ôl yr etholiad.