Arddangos llun gwerth £35m gan Rembrandt yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae llun gwerth £35m gan Rembrandt nawr yn cael ei arddangos yng Nghymru.
Roedd y llun, Portrait of Catrina yn arfer cael ei gartrefu yng Nghastell Penrhyn cyn cael ei werthu i brynwr preifat.
Bydd nawr yn cael ei arddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd am y tair blynedd nesaf.
'Gwaith arbennig'
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson: "Mae hwn yn waith arbennig, sy'n golygu llawer i dreftadaeth Cymru ac yn bwysig iawn iddo.
"Cyrhaeddodd y paentiad Gymru yn y 1860au ac mae'n esiampl o'r cyfoeth ariannol a chenedlaethol a ddaeth yn sgil y chwyldro diwydiannol yng Nghymru.
"Mae'n bleser cael arddangos y gwaith yn gyhoeddus, fel y gall gyfrannu at ein dealltwriaeth o'n gorffennol a chael ei fwynhau gan gynulleidfa'r presennol."
Dywedodd y perchennog, sydd wedi penderfynu aros yn anhysbys, eu bod yn hapus iawn i rannu eu mwynhad o'r paentiad â'r cyhoedd drwy ei fenthyg i'r amgueddfa.