Pryder cynyddol am ddynes o Gaernarfon sydd ar goll

  • Cyhoeddwyd
Averil
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Averil Whitfeild ei gweld diwethaf yn ei chartref yng Nghaernarfon

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod yn gynyddol bryderus am ddiogelwch dynes o Gaernarfon sydd ar goll.

Nid yw Averil Whitfield, sy'n 57 oed, wedi ei gweld ers 1 Ebrill.

Cafodd ei disgrifio fel menyw wen a main gyda gwallt byr coch.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd wedi ei gweld neu sydd â gwybodaeth am ei lleoliad i ffonio Heddlu'r Gogledd ar 101 a chyfeirio at achos rhif 15235.