Burnley 0-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae gobeithion Burnley am deitl y bencampwriaeth eleni wedi dioddef ergyd, yn dilyn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Caerdydd.
Fe arbedodd golwr Caerdydd, David Marshall ergydion gan Andre Gray a George Boyd ar noson rwystredig i'r arweinwyr y gynghrair.
Llwyddodd golwr yr Alban hefyd i arbed cynigion hwyr gan Sam Vokes ac Ashley Barnes.
Yn dilyn y perfformiad amddiffynnol, roedd tîm Russell Slade yn haeddu gêm gyfartal, er eu bod yn awr bedwar pwynt tu ôl i'r llefydd ail gyfle yn y bencampwriaeth.