Damwain China: Marwolaeth ddamweiniol dyn o Wynedd
- Cyhoeddwyd

Bu farw Robin Llyr Evans ar ôl syrthio lawr siafft lifft yn China
Mae cwest wedi clywed sut y bu dyn 20 oed o Wynedd farw ar ôl iddo syrthio i lawr siafft lifft yn China.
Roedd Robin Llyr Evans o Lanbedrog yn gweithio mewn stadiwm tennis i gwmni technoleg Hawk-Eye Innovations pan ddigwyddodd y ddamwain.
Roedd yn helpu i osod camerâu mewn stadiwm newydd yn Wuhan.
Clywodd y gwrandawiad fod Mr Evans wedi camgymryd gorchudd y siafft am ddarn diogel o'r llawr, ac i'w bwysau fod yn ormod i'r gorchudd pan safodd arno.
Fe gafodd anafiadau difrifol i'w ben a bu farw'n syth. Cofnododd y crwner, Dewi Pritchard Jones, iddo farw'n ddamweiniol.
Galw am welliannau
Dywedodd, petai hyn wedi digwydd yng Nghymru, y byddai wedi galw am welliannau i amodau iechyd a diogelwch yn y stadiwm.
Galwodd Hawk-Eye eu staff yn ôl o'r stadiwm yn dilyn y ddamwain.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae meddyliau pawb yn Hawk-Eye gyda theulu a chyfeillion Robin. Rydym yn gobeithio y bydd y cwest yn rhywfaint o gymorth iddyn nhw ddod i delerau ag amgylchiadau marwolaeth trasig Robin."