Arweinwyr pleidiau Cymru yn cyhoeddi ffurflenni treth
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Leanne Wood gyhoeddi ei manylion treth nos Sul
Mae arweinwyr Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a Llafur Cymru wedi cyhoeddi manylion am yr hyn y maen nhw'n ei dalu mewn trethi.
Daw hyn ar ôl i'r Prif Weinidog David Cameron gyhoeddi ei gofnodion treth.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, y bydd yn cyhoeddi ei ffurflen dreth yn y dyddiau nesaf.
Ond mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill wedi dweud y bydd yn gwrthod, gan ladd ar yr "Americaneiddio" o wleidyddiaeth yn y DU.
'Agored ac yn dryloyw'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ei bod "bron wedi fy ngorfodi" i gyhoeddi manylion am ei thaliadau treth oherwydd cwestiynau am David Cameron a buddsoddiad yng nghronfa ei dad.
Ms Wood oedd yr arweinydd Cymraeg cyntaf i gyhoeddi ei manylion treth yn gyhoeddus nos Sul.
"Mae hi'n siom bod gwleidyddiaeth wedi dod i hyn ond rwy'n credu mewn bod yn agored ac yn dryloyw," meddai wrth BBC Radio 4.
Fe wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams gyhoeddi ei manylion treth brynhawn dydd Llun.
Wrth gyhoeddi ei fanylion treth nos Lun, dywedodd Carwyn Jones ei fod "wedi sefyll dros dryloywder a gonestrwydd mewn gwleidyddiaeth" erioed.
Ond dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill nad yw'n bwriadu gwneud yr un peth.
"Dydw i ddim am ddilyn trywydd pawb arall ar yr Americaneiddio o wleidyddiaeth Prydain i sgorio pwyntiau yn erbyn y prif weinidog," meddai.