Dathliadau lliwgar
- Cyhoeddwyd

Stondinwyr y carnifal yn 1985
Yr wythnos hon (Ebrill 11-16) mae BBC Cymru yn arwain prosiect i ddweud stori y gymuned sy'n byw mewn tyrrau o fflatiau yn ardal Trebiwt yng Nghaerdydd.
Mae BBC Radio 1Xtra, BBC Radio 2 a BBC News Online yn rhan o'r prosiect sy'n portreadu bywyd yn yr ardal oedd yn cael ei hadnabod yn fwy cyffredin ar un adeg fel Tiger Bay.
Ers blynyddoedd mae'r carnifal lliwgar wedi bod yn un o uchafbwyntiau'r gymuned. Dyma olwg ar y dathliadau dros y blynyddoedd. Diolch i Simon Campbell am gael defnyddio rhai o'r lluniau:


Bachgen ifanc yn perfformio yn 1989

Parêd 1992

Plant mewn gwisgoedd lliwgar yn 1990

Rapwyr ifanc lleol yn 1992

Y dorf yn cael eu diddanu yn 1987

Un o benwisgoedd lliwgar y carnifal

Hiro Hari yn diddanu'r dorf yn 2014