Cyn grwner i gael apelio'i ddedfryd
- Cyhoeddwyd

Fe ymddiswyddodd John Owen fel crwner yn 2011
Mae cyn grwner Sir Gaerfyrddin wedi ennill yr hawl i apelio yn erbyn ei ddedfryd o bum mlynedd o garchar am dwyll.
Yn Medi 2014, fe wnaeth William John Owen, 81 oed, bledio'n euog o ddwyn a chadw cyfrifon ffug yn ymwneud â chyfanswm o £1.2 miliwn.
Fe wnaeth o ddwyn yr arian o ystâd cleient - John James Williams - wrth weithio fel cyfreithiwr yn Llandeilo dros nifer o flynyddoedd.
Ef oedd ysgutor ewyllysiau ac roedd yn codi tâl am waith nad oedd wedi ei gwblhau.
Yn ogystal â dedfryd o bum mlynedd roedd yna orchymyn yn gorfodi Owen i ad-dalu dros £125,000.
Ddydd Mawrth, penderfynodd barnwyr yn y Llys Apêl Llundain ganiatáu iddo apelio yn erbyn hyd y ddedfryd.
Dywedodd Mrs Ustus McGowan fod Owen o gymeriad da cyn y drosedd: "Fe gollodd ei fywoliaeth, ei enw da a'i ryddid."
O ystyried ei oed a'i amgylchiadau personol dywedodd y barnwr "ei bod wedi ei pherswadio mai'r peth cywir i wneud oedd caniatáu hawl i apêl."
Nid oes dyddiad wedi ei bennu ar gyfer yr achos apêl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2014
