Seremoni i enwi bad achub newydd yr RNLI yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Bydd bad achub newydd yr RNLI yn cael ei enwi mewn seremoni yng Ngwynedd ddydd Sadwrn.
Cafodd y cwch Atlantic 85 ei ariannu trwy rodd gan Ann Constance Setten o Sir Amwythig cyn ei marwolaeth.
Bydd yn cael ei enwi ar ol Ms Setten a'i gŵr, Peter mewn seremoni yn RNLI Abersoch gan ei nith, Liz Badman a'i gor-nith, Sarah Flook.
Dywedodd Ms Badman: "Roedd fy modryb yn caru unrhyw beth i'w wneud gyda chychod, y môr a'r Llynges ac roedd ganddi ddiddordeb yn y badau achub o'i gwyliau fel plentyn."