Cyn gynghorydd Llafur yn ymuno â'r Gwyrddion
- Cyhoeddwyd

Roedd Ralph Cook yn aelod o'r blaid Lafur am 37 o flynyddoedd
Mae cyn ddirprwy arweinydd Cyngor Caerdydd ac aelod o'r blaid Lafur wedi ymuno â Phlaid Werdd Cymru.
Dywedodd Ralph Cook ei fod wedi gwneud ei benderfyniad ar ôl darllen maniffesto'r blaid ar gyfer etholiad y Cynulliad.
Ychwanegodd ei fod yn "amgylcheddwr ymarferol hyd oes" cyn iddo gael ei ethol yn gynghorydd i Lafur.
Roedd Mr Cook yn aelod annibynnol ers iddo adael y blaid Lafur yn 2015, yn dilyn ffrae dros y ffordd yr oedd y blaid yn rheoli yng Nghaerdydd.
Dywedodd: "Rydw i wrth fy modd i ymuno â phlaid sy'n glynu at ei gwerthoedd ac sy'n galluogi i'w chynrychiolwyr ddatgan eu barn am faterion pwysig y dydd."