Tân Eryri: Galw criwiau i Fachwen ger Llanberis
- Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn delio gyda thân eithin mawr ar fynydd yng Ngwynedd ers brynhawn ddydd Mercher.
Fe gafodd criwiau o Lanberis a Chaernarfon eu galw i'r tân yn Fachwen ger Llanberis am tua 15:50.
Roedd y tân yn ymestyn dros 600 metr sgwâr uwchlaw Llyn Padarn.
Fe gafodd mwy o griwiau tân o Gaernarfon a Bangor eu galw i'r digwyddiad, wrth i'r tân ledaenu.
