Cyngor Sir Gaerfyrddin i wario £2m ar archifdy
- Cyhoeddwyd

Llyfrgell tref Caerfyrddin
Mae aelodau Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cymeradwyo cynlluniau i wario £2m ar adeiladu cartref newydd i archifdy'r sir.
Bydd y safle yn estyniad i lyfrgell tref Caerfyrddin.
Disgrifiodd arweinydd y cyngor, Emlyn Dole, y casgliad fel "un o'r archifau gorau" yng Nghymru, a dywedodd y byddai'r dogfennau yn awr yn cael eu cadw "yn y lle iawn ac yn y ffordd iawn".
Bu'n rhaid i'r cyngor gau archifdy'r presennol ym Mharc Myrddin yn 2013 oherwydd presenoldeb llwydni.
Ymhlith y miloedd o eitemau mae dogfennau pwysig, gan gynnwys cofnodion am Ferched Beca, achau hen deuluoedd a llythyrau gan y Frenhines Victoria.

Llwydni ar ddogfennau ym Mharc Myrddin cyn i'r adeilad gael ei gau

Ymysg y llyfrau mae dogfennau am Ferched Beca a llythyrau'r Frenhines Fictoria
Ar un pryd roedd ofnau pe na bai'r cyngor yn dod o hyd i'r arian ar gyfer cartref newydd, yna byddai'n rhaid i'r casgliad fynd y tu hwnt i ffiniau'r sir.
Ar hyn o bryd mae dros 6,000 o eitemau wedi cael cartref dros dro yn Archifdy Morgannwg, Caerdydd.
Dywed swyddogion Cyngor Caerfyrddin nad yw adeilad Parc Myrddin yn addas bellach ar gyfer archifdy.

Cafodd yr archifdy ym Marc Myrddin ei gau i'r cyhoedd yn 2013