Gwrthdrawiad angheuol ger Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Bu farw dyn a chafodd chwech o bobl eu hanafu mewn gwrthdrawiad ger Wrecsam.
Digwyddodd y ddamwain rhwng dau gerbyn ar ffordd yr A534 ger Holt am 16:08 ddydd Gwener.
Roedd y dyn fu farw yn ei bedwardegau ac yn teithio yn un o'r cerbydau.
Cafodd un person arall ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke on Trent, ac aed a phump o bobl i ysbyty Maelor Wrecsam.