British Home Stores yn nwylo'r gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd

Mae British Home Stores wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ddydd Llun gan roi bron 11,000 o swyddi yn y DU yn y fantol.
Mae'r cwmni, sydd wedi wynebu dyledion mawr, wedi methu dod o hyd i brynwr.
Dyma'r cwymp mwyaf ar y stryd fawr ers Woolworths wyth mlynedd yn ôl.
Mae gan BHS chwe siop yng Nghymru, sef Caerfyrddin, Abertawe, Casnewydd, Wrecsam, Llandudno a Bae Caerdydd.
Methodd trafodaethau gyda Sports Direct i werthu rhai o'r 164 o siopau BHS dros y penwythnos, a'r gred yw y byddai unrhyw brynwr dim ond yn gwneud hynny os nad oedd yn rhaid iddo fabwysiadu'r diffyg pensiwn o £571m.
'Calon drom'
Mewn llythyr at staff, dywedodd perchennog BHS, Dominic Chappell: "Gyda chalon drom, rhaid i mi adrodd, er gwaethaf ymdrech enfawr gan y tîm, nad ydym wedi llwyddo i sicrhau benthyciwr neu werthiant masnachol."
Dywedodd Mr Chappell ei fod yn "wir flin" a sicrhaodd y staff y bydden nhw'n cael eu cyflog y mis hwn.
Dywedodd Phil Dorrell, dadansoddwr manwerthu, wrth y BBC nad oedd mynd i ddwylo'r gweinyddwyr "yn golygu y byddai'r siopau yn cau heddiw, mae'n golygu chwilio am brynwr".
Y tebygrwydd yw y bydd BHS yn cael ei werthu "fesul siop" ac "yn ôl pob tebyg bydd yr enw yn diflannu", meddai Mr Dorrell, o Retail Remedy.