Sir Derby 46 y tu ôl i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae Andrew Salter wedi ymestyn ei gytundeb gyda Morgannwg
Mae Sir Derby 46 o rediadau y tu ôl i Forgannwg yn eu batiad cyntaf, gyda diwrnod o chwarae ar ôl yn y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd.
Wedi i Forgannwg gyrraedd 377 yn eu batiad cyntaf yn Derby, dechreuodd y tîm cartref ar 98 am 2 ddydd Mawrth.
Bellach wedi cyrraedd 331 am 9 wiced, Wayne Madsen oedd prif sgoriwr Sir Derby gan gyrraedd 97 cyn cael ei fowlio gan Andrew Salter, wnaeth gymryd tair wiced yn y batiad.
Ond cafodd y gêm ei heffeithio gan dywydd gwael, ac mae'n edrych yn debygol y bydd timau'n gyfartal ar ddiwrnod olaf y chwarae ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2016
