Gyrrwr ambiwlans wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Y Ffôr
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn ei ladd wedi i ddwy ambiwlans daro yn erbyn ei gilydd ar yr A499 ger Pwllheli brynhawn dydd Iau.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng pentrefi'r Ffôr a Llanaelhaearn tua 15:00.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Cafodd y tri gwasanaeth brys eu galw i'r safle a chafodd y ffordd ei chau yn syth.
"Bu farw un o'r gyrwyr ambiwlans yn y fan a'r lle ac mae ei deulu wedi cael gwybod.
"Mae tri o bobl eraill wedi'u cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ac mae'n ymddangos bod ganddyn nhw anafiadau difrifol.
Dau gerbyd
Ychwanegodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: "Fe gawson ni alwad toc cyn 15:00 ddydd Iau fod gwrthdrawiad difrifol wedi bod ar yr A499 ym Mhwllheli yn ymwneud â dau o'n cerbydau - roedd un yn gerbyd Gwasanaethau Gofal Cleifion a'r llall yn gerbyd Gofal Brys.
"Fe wnaethon ni anfon tair ambiwlans a dau gar ymateb cyflym i'r safle, yn ogystal â dau Ambiwlans Awyr.
"Yn drist iawn, bu farw'r unig deithiwr yn y cerbyd Gwasanaethau Gofal Cleifion - y gyrrwr - yn y fan a'r lle.
"Cafodd y tri theithiwr yn y cerbyd Gofal Brys eu cludo i Ysbyty Gwynedd gydag anafiadau difrifol."
Cefnogi staff
Dywedodd Richard Lee, un o gyfarwyddwyr y Gwasanaeth Ambiwlans: "Rydym yn meddwl am bawb sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad hwn, yn enwedig teulu ein cydweithiwr fu farw.
"Fel gwasanaeth ambiwlans rydyn ni'n delio gyda gwrthdrawiadau yn ddyddiol. Mae'r rhain o hyd yn anodd i'n staff ddelio â nhw, ond hyd yn oed yn anoddach os ydyn nhw'n ymwneud â chydweithwyr.
"Mae gennym gynlluniau i gefnogi ein staff ym Mhwllheli ac ardal Gwynedd yn ehangach dros y dyddiau nesa'."
Roedd disgwyl i'r ffordd fod ynghau am rai oriau nos Iau wrth i'r awdurdodau barhau i ymchwilio.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r Uned Blismona Ffyrdd ar 101, gan ddefnyddio'r cyfeirnod U060780.



Roedd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd y B4417 gan fod yr A499 ynghau