Caint 212 o rediadau ar y blaen i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Caint 488: Bell-Drummond 84, Denly 58, Stevens 58; Hogan 4-91
Morgannwg 260 & 16-1:
Caint 212 o rediadau ar y blaen i Forgannwg
Caint 8 pwynt, Morgannwg 5 pwynt.
Fe wnaeth batwyr Caint roi eu tîm mewn sefyllfa dda ar yr ail ddiwrnod o chwarae ym Mhencampwriaeth y Siroedd, ar y blaen o 228 o rediadau ar y batiad cyntaf.
Cyrhaeddodd Daniel Bell-Drummond 84, ac roedd Darren Stevens a Mitch Claydon ymhlith pump o fatwyr a basiodd yr 50.
Michael Hogan gyda 4-91 a Craig Meschede gyda 3-105 oedd y gorau ymhlith ymosodiad anghyson Morgannwg.
Cwblhaodd Stevens ddiflastod yr ymwelwyr trwy gael gwared ar y capten Jacques Rudolph.