UKIP yn ennill eu seddi cyntaf yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd

Caroline Jones yw un o'r ddau aelod UKIP yng Ngogledd Cymru
Mae UKIP wedi sicrhau eu seddi cyntaf erioed yn y Cynulliad Cenedlaethol. Daeth eu llwyddiant yn y seddi rhestr ranbarthol, ac mae ganddynt chwech o aelodau ym Mae Caerdydd, a hynny cyn cyhoeddiad canlyniad rhestr Canol De Cymru.
Wrth ymateb i'r canlyniad fe wnaeth Nigel Farage, arweinydd UKIP drydar: "Mae UKIP nawr yn cynrychioli nifer o bleidleiswyr traddodiadol y blaid Lafur."
Ymhlith yr Acau sydd wedi eu hethol mae Nathan Gill, arweinydd y blaid yng Nghymru, a'r cyn aelod seneddol Ceidwadol Mark Reckless.
Dywedodd Mr Reckless: "Fe fyddwn yn dod a chwa o awyr iach yn y Cynulliad. Mae'r sefydliad wedi bod yn rhy glud am amser rhy hir."
Neil Hamilton, cyn aelod seneddol Ceidwadol arall, lwyddodd i gipio sedd UKIP ar restr Canolbarth a Gorllewin Cymru.
"Mae hyn yn agor pennod newydd i mi a gobeithio yn agor pennod newydd i'r Cynulliad hefyd," meddai.

Neil Hamilton yn dathlu gyda'i wraig
Yn ôl arweinydd UKIP ym Mhrydain, Nigel Farage mae'r canlyniadau yn "gam mawr ymlaen i'r blaid".
Seddi UKIP
Gogledd Cymru - Nathan Gill, Michelle Brown
Canolbarth a Gorllewin Cymru - Neil Hamilton
Gorllewin De Cymru - Caroline Jones
Dwyrain De Cymru - Mark Reckless, David Rowlands
Canol De Cymru - Gareth Bennett
Mae Nathan Gill, wedi dweud y bydd yn rhoi'r gorau i'w sedd yn Senedd Ewrop yn dilyn cael ei ethol i'r Cynulliad, ac fe fydd yn rhaid i UKIP ddewis rhywun yn ei le o'r rhestr o ymgeiswyr wnaeth sefyll ar eu rhan yn Etholiad Ewrop.