Cymeradwyo adeiladu tai cyngor
- Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr Sir y Fflint wedi cymeradwyo cais datblygu gwerth £4 miliwn i godi 30 o dai cyngor newydd.
Mae'r datblygiad yn rhan o gynllun ehangach i adeiladu cannoedd o dai newydd yn y Sir.
Bydd y tai ar safle hen stad dai The Walks a gafodd ei ddymchwel y llynedd.
Roedd tai ar y hen ystâd wedi dirywio ac mewn cyflwr gwael ac yn ôl adroddiad gan y cyngor doedd yr hen dai ddim yn boblogaidd gyda thenantiaid.
Gobaith y cyngor ydy adeiladu 200 o dai cyngor newydd a 300 o dai fforddiadwy arall dros gyfnod o bum mlynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Awst 2012

- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014
