Costau parcio Aberteifi: Safbwynt y protestwyr
Mae 40 o berchnogion siopau a chwsmeriaid wedi gorymdeithio trwy ganol Aberteifi fel rhan o ymgyrch i sicrhau parcio am ddim yn y dref.
Cafodd wylnos golau cannwyll ei chynnal y tu allan i Neuadd y Dref yn dilyn yr orymdaith o'r Castell.
Cadeirydd Masnachwyr Aberteifi, Martyn Radley sy'n egluro safbwynt y protestwyr.