Bradley Davies i ymuno â'r Gweilch ar gytundeb deuol
- Cyhoeddwyd

Bydd y clo Bradley Davies yn dychwelyd i chwarae yng Nghymru'r tymor nesaf ar ôl arwyddo cytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru a'r Gweilch.
Bydd Davies, sy'n 29, yn gadael Wasps ar ddiwedd y tymor, ac mae wedi arwyddo cytundeb hyd at 2019 gyda'r Gweilch.
Chwaraeodd Davies i'r Gleision cyn ymuno â Wasps. Mae hefyd wedi ennill 54 o gapiau i Gymru.
Dywedodd Davies: "Hoffwn ddiolch i Wasps am y blynyddoedd diwethaf, rydw i wedi mwynhau fy amser gyda'r clwb ac rydw i'n edrych ymlaen at orffen y tymor yn bositif dros y penwythnosau nesaf.
"I mi roedd cyfle i ddychwelyd i Gymru ar gytundeb deuol yn un rhy dda i'w wrthod."