Heddlu'n ymchwilio i lofruddiaeth hanesyddol
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cynnal archwiliad o dŷ yn Gobowen, Sir Amwythig, fel rhan o ymchwiliad i lofruddiaeth.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Sian Beck o Wrecsam fod swyddogion "yn parhau i geisio adnabod y dyn a lle'r oedd ei weddillion wedi cael eu gadael".
Ychwanegodd fod archwiliadau eraill wedi eu cynnal yn Wrecsam a Gobowen yn ystod y dyddiau diwethaf.
Roedd eitemau yn y tŷ yn Gobowen angen eu harchwilio'n fanylach meddai. Does neb wedi cael eu harestio.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Beck: "Y bore 'ma fe wnaeth ditectifs weithredu gwarant yn Gobowen am dystiolaeth mewn cysylltiad ag ymchwiliad i lofruddiaeth.
"Mae'r gwaith yn dilyn nifer o archwiliadau dros y dyddiau diwethaf yn ardaloedd Wrecsam a Gobowen, ac fe gredir bod cysylltiad gyda llofruddiaeth hanesyddol.
"Os oes unrhyw un â gwybodaeth fyddai o gymorth yna fe fyddwn yn gofyn iddyn nhw gysylltu gyda ni."