Neil Taylor: 'Pwysig cofio ein hunaniaeth Gymreig'
Mae Pencampwriaeth Euro 2016 yn prysur nesáu, a'r wythnos nesaf bydd Cymru'n teithio i Bortiwgal fel rhan o'u paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth.
Un sydd ar ei ffordd i'r Algarve ydi amddiffynnwr Abertawe, Neil Taylor.
Dydd Gwener roedd yn ymweld â'i gyn-ysgol yn Rhuthun, ac wrth ddychwelyd i Ysgol Brynhyfryd, bu Taylor yn sôn am bwysigrwydd hunaniaeth Gymreig i ysbryd y tîm. Dafydd Evans sydd â'r hanes.