Cytundeb Coleman: 'Hwb i'r garfan'
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau fod rheolwr Cymru Chris Coleman wedi arwyddo cytundeb am ddwy flynedd arall, nes Cwpan y Byd 2018.
Mae cyn-chwaraewr Cymru, Owain Tudur Jones, yn dweud bod yr estyniad yn bwysig iawn i'r tîm cenedlaethol.