Achos newydd Ched Evans i gael ei gynnal ym mis Hydref
- Cyhoeddwyd

Bydd achos newydd y pêl-droediwr Ched Evans yn cael ei gynnal ym mis Hydref.
Yn y Llys Apêl yn Llundain fis diwethaf, fe wnaeth y cyn-chwaraewr rhyngwladol ennill apêl yn erbyn ei euogfarn am dreisio.
Cafodd ei garcharu yn 2012 ar ôl i reithgor ei gael yn euog o dreisio dynes 19 oed mewn gwesty ger Y Rhyl.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener, dywedodd Barnwr yr Uchel Lys, Nicola Davies y byddai achos newydd y gŵr 27 oed yn dechrau ar 4 Hydref 2016, gyda disgwyl iddo bara pythefnos.
Fe wnaeth Evans siarad yn y llys i gadarnhau ei enw ac i bledio'n ddieuog.
Fe wnaeth y cyn-ymosodwr Sheffield United dreulio hanner ei ddedfryd pum mlynedd dan glo cyn cael ei ryddhau ym mis Hydref 2014.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2016
