Cwest Cheryl James: Gofal yn y baracs 'ddim yn ddigonol'
- Cyhoeddwyd

Bu farw Cheryl James yn 1995 ym Marics Deepcut
Doedd y gofal ym maracs Deepcut ddim yn ddigonol yn ôl y crwner sydd yn ymchwilio i achos marwolaeth milwr 18 oed.
Cafodd y Preifat Cheryl James, o Langollen yn Sir Ddinbych, ei darganfod yn farw gyda bwled yn ei phen yn y gwersyll yn 1995.
Roedd hi'n un o bedwar milwr i farw yn y barics dros gyfnod o saith mlynedd.
Fe wnaeth y cwest cyntaf i farwolaeth y Preifat James ym mis Rhagfyr 1995 gofnodi rheithfarn agored.
Mae'r crwner, Brian Barker QC wedi dweud ei bod hi'n 'destun gofid' nad oedd yna ymchwiliad mwy trylwyr ar y pryd.
"Mae hyn wedi bod yn ymchwiliad hir ac anodd. Roedd yn rhaid edrych ar sawl digwyddiad ers Hydref 1995."
Dywedodd hefyd nad oedd yna ddigon o swyddogion yn y baracs i hyfforddi ac edrych ar ôl y milwyr ifanc a'u bod nhw wedi diflasu a heb eu disgyblu.

Mae rhieni Cheryl James wedi bod yn ymgyrchu am flynyddoedd i gael atebion
Roedd y Preifat Cheryl James yn gwneud dyletswyddau yn y gwersyll ar ei phen ei hun pan gafodd ei darganfod yn farw. Yn ôl y crwner roedd rheolau'r fyddin yn golygu nad oedd hyn fod i ddigwydd.
Roedd yna dystiolaeth bod yna awyrgylch "rhywiol" yn Deepcut meddai Mr Barker. Doedd cael perthynas gyda milwr arall ddim yn torri unrhyw reolau ond dywedodd fod y modd yr oedden nhw'n gallu cael rhyw yn "anaddas."
Mae'r crwner hefyd wedi dweud bod yna dystiolaeth o berthnasau rhywiol anaddas rhwng swyddogion neu hyfforddwyr a milwyr dan hyfforddiant.
Dywedodd bod y fyddin yn derbyn bod rhai hyfforddwyr yn gweld "merched ifanc fel her rywiol."
Mae rhieni Cheryl James, Des a Doreen yn y llys er mwyn clywed y rheithfarn. Dechreuodd ail gwest ym mis Chwefror ar ôl i farnwyr yr Uchel Lys ddileu canfyddiadau'r cwest cyntaf.
Mae dros 100 o dystion wedi rhoi tystiolaeth.