Cliciwch dros Gymru!

  • Cyhoeddwyd
ashley
Disgrifiad o’r llun,

Dechrau da i'r ymgyrch! Cofiwch yr 'Ashnod #CymruFyw

Heb amheuaeth hi yw Brenhines yr Hunluniau. Cyn dechrau Ewro 2106 fe roddodd Cymru Fyw a Radio Cymru her i Catrin Heledd i dynnu gymaint o luniau a phosib gyda enwogion. Fel y gwelwch chi isod dydy hi ddim wedi'n siomi ni!

Mae Cymru Fyw yn eich gwahodd chi hefyd i anfon hunluniau o'ch hunain gydag enwogion yn ystod y bencampwriaeth.

Does dim rhaid i chi fod wedi bod yn ddigon lwcus i fynd i Ffrainc i ymuno yn yr hwyl.

Gallwch anfon eich lluniau at Cymru Fyw trwy eu hanfon i'n tudalen Facebook, dolen allanol neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw gan ddefnyddio #CymruFyw. Croeso i chi eu hanfon hefyd ar e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk

line
Blew mae Joe Ledley? Dyma fo yn cuddio tu ôl i'w farf!
Disgrifiad o’r llun,

Blew mae Joe Ledley? Dyma fo yn cuddio tu ôl i'w farf!

line
Neil Taylor a phwy 'di hwn ar yr asgell dde? Byddai Shane yn gaffaeliad i'r garfan cyn belled bod o ddim yn gafael yn y bêl!
Disgrifiad o’r llun,

Neil Taylor a phwy 'di hwn ar yr asgell dde? Byddai Shane yn gaffaeliad i'r garfan cyn belled bod o ddim yn gafael yn y bêl!

line
Bydd Iwan Roberts yn genfigenus o farf James Collins!
Disgrifiad o’r llun,

Ydy hi braidd yn boeth i wisgo barf? Dydy James Collins ddim yn poeni am hynny!

line
Hal-wch eich hunluniau at Cymru Fyw!
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl tri - Hal! Robson! Hal Robson-Kanu! Hal-wch eich hunluniau at Cymru Fyw!

line
Roedd yn rhaid i Cat gadw ei llygaid ar y Bale i gael y llun yma!
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i Cat gadw ei llygaid ar y Bale i gael y llun yma!

line

Eich lluniau chi...

Dau seren am bris un: Elis James ac Iwan Roberts.
Disgrifiad o’r llun,

Dau seren am bris un: Elis James ac Iwan Roberts.

Darren Parry o Borthmadog yn trên-io efo Arsenal ar y ffordd i Ffrainc . Ydy o wedi creu argraff ar Arsene Wenger 'ta ydy ei yrfa bêl-droed o wedi cyrraedd pen y twnel?
Disgrifiad o’r llun,

Darren Parry o Borthmadog yn trên-io efo Arsenal ar y ffordd i Ffrainc . Ydy o wedi creu argraff ar Arsene Wenger 'ta ydy ei yrfa bêl-droed o wedi cyrraedd pen y twnel?