Dadorchuddio carreg goffa i Moc Morgan
Mae carreg goffa wedi ei dadorchuddio er cof am y darlledwr a'r pysgotwr, Moc Morgan. Mae'r garreg ar lannau Llyn Egnant - un o lynnoedd Teifi ger pentref Ffair Rhos.
Roedd Moc Morgan yn wyneb a llais cyfarwydd i wylwyr S4C a gwrandawyr Radio Cymru, yn gyflwynydd a chyfrannwr cyson i raglenni am fywyd cefn gwlad.
Fe ddadorchuddiwyd y garreg gan ei weddw, Julia Morgan.