Rhoi'r tîm ar y map
- Cyhoeddwyd

Y Bale, ond beth am y chwaraewyr eraill?
Mae tref Y Bala yn newid ei henw dros dro i y Bale fel teyrnged i Gareth Bale, arwr tîm pêl-droed Cymru. Ond mae criw Cymru Fyw yn credu y dylai rhai o arwyr eraill Chris Coleman gael eu clodfori yn yr un modd:
AbergWAYNEgregyn, Gwynedd - Mae'r A55 yn mynd heibio i'r pentre erbyn hyn ond mae'r ffordd ddeuol yn helpu'r gôl-geidwad Wayne Hennessey i arbed amser ar ei ffordd nôl i'r gogledd.
CHRISHands, Sir Gâr - Mae'r ffyrdd yn croesi ynghanol y pentre. Gobeithio y bydd Chris Gunter yn croesi'r bêl o bob cyfeiriad yn Euro 2016.
TAYLORstown, Rhondda Cynon Taf - Mae bois rygbi'r cymoedd wedi gwirioni hefyd ar lwyddiant Neil Taylor a hogia Cymru yn Ffrainc.

Mae llwyddiant y pêl-droedwyr wedi sgubo drwy gadarnle'r bêl hirgron hefyd
RhiwaBEN, Wrecsam - Mae'n bosib dadlau y dylai'r dre hon gael ei henwi ar ôl un o'i meibion enwocaf, cyn reolwr Cymru Mark Hughes. Ond ry'n ni'n siwr byddai Sparky'n hapus i Ben Davies gael ei anrhydeddu am y cliriad yna yn erbyn Slofacia!
COLLIns Coch, Aberystwyth - Enw addas iawn ar gyfer y gŵr cadarn, James Collins ynghanol yr amddiffyn gyda'i farf liwgar!
Pen y PASH, Llanberis - Mae'r capten Ashley Williams mor gadarn â mynyddoedd Eryri!
DeiniALLEN, Gwynedd - Gallwn daro dau dderyn gydag un garreg yma. Teyrnged i'r chwaraewr canol cae Joe Allen ac i'r hogyn lleol, y sylwebydd Malcolm Allen sydd yn dod â chymaint o liw i gemau Cymru ar S4C.

Band pres Deini-ALLEN yn canu clodyd Joe... a Malcs!
KINGbych, Sir Ddinbych - Mae 'na gastell yn Ninbych a fyddai'n gartre addas i'r brenin canol cae Andy King.
AberARRON, Ceredigion - Bydda 'na hwyliau da ar bawb yn y dre lan môr petai Aaron Ramsey yn medru creu rhagor o goliau yn Ffrainc.
KANUolbarth Cymru - Mae Hal Robson-Kanu yn haeddu tiriogaeth mor eang ar ôl ei gôl fuddugol yn erbyn Slofacia.

Porth Coleman, Pen Llŷn. Cafodd Chris 'chydig o lonydd yma i roi trefn ar ei dactegau?
Tîm Rheoli:
Porth COLEMAN, Pen Llŷn - Bydd Chris Coleman yn pysgota am ragor o bwyntiau dros y dyddiau nesa.
RhOSIANerchrugog - Gyda'i Gymraeg coeth dim ond Osian Roberts fedr yngangu enw'r dre' ddiwylliedig ar gyrion Wrecsam yn gywir!